/home/flvc/public_html/wp-content/themes/flvcdevnewbak/page.php

Aelodaeth

Mae nifer yr aelodau’n dal i godi bob mis. Beth am ymuno nawr?

Darllenwch yr wybodaeth “Ymaelodi” cyn llenwi’r ffurflen gais os gwelwch yn dda.
I wneud cais am aelodaeth, lawrlwythwch ffurflen gais bapur ymallenwch hon a’i dychwelyd, gyda chopi o gyfansoddiad eich sefydliad a’r ffi aelodaeth perthnasol.

Manteision bod yn aelod – cewch hyn i gyd am bris mor isel â £15.00:

  • Newyddlen “Llais Gwirfoddol” bob deufis
  • Y newyddion diweddaraf ar unwaith – Ebyst yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, gwirfoddoli, deddfwriaeth, hyfforddiant, polisi a rheolaeth sefydliadau cymunedol gwirfoddol a chyfleoedd i gael cyllid.
  • Prisiau is am brintio a llungopïo a gwasanaethau eraill gan FLVC.
  • Rhybudd o flaen llaw am roddion o offer a dodrefn.
  • Cyfle i rwydweithio – gwahoddiadau i gyfarfodydd arbennig i aelodau yn cynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
  • Gall aelodau llawn enwebu ac ethol Ymddiriedolwyr a phleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol
  • Mynediad breintiedig at wybodaeth FLVC.
  • Byddwch yn gymwys i ddefnyddio Cronfa Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol FLVC.
  • Gwasanaeth canolfannau cyflogres am bris cystadleuol – gadewch i ni ganfod beth yw’r materion treth ac yswiriant cenedlaethol ac ati sy’n berthnasol i’ch gweithwyr chi.
  • Gallwn baratoi eich cyfrifon blynyddol am bris cystadleuol.
  • Gallwch hurio ystafelloedd cyfarfod FLVC am gost is.
  • Byddwch hefyd yn ein Cyfeiriadur Aelodau ar-lein newydd.    Ond, gall aelodau ddewis peidio cael eu cynnwys hefyd os nad ydynt eisiau i ni roi eu manylion.