Dod yn Ymddiriedolwr
Dod yn Ymddiriedolwr

Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn falch o gynrychioli'r Sector Gwirfoddol.
Allech chi ymuno â'n Bwrdd Ymddiriedolwyr?
Ydych chi'n chwilio am gyfle i ddefnyddio'ch sgiliau i helpu'r sector gwirfoddol?
Mae FLVC wedi bod yn hyrwyddo, datblygu a chefnogi gweithgaredd gwirfoddol a chymunedol ers dros 25 mlynedd. Rydym yn ei gweld yn fraint i gynrychioli’r gwaith sy’n newid bywydau y mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn ei wneud. A allech chi gefnogi ein Bwrdd i helpu i ddatblygu ein gwasanaethau? Rydym yn chwilio am bobl leol sydd â diddordeb yn y sector gwirfoddol i helpu i arwain sut mae ein mudiad yn gweithredu. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol fel ymddiriedolwr - dewch fel chi'ch hun!
Mae CGLlSFf yn elusen gofrestredig a dyma’r Cyngor Gwirfoddol Sirol a benodwyd ar gyfer Sir y Fflint gan Lywodraeth Cymru. Rhoddwn arweiniad ar Lywodraethiant, Cyllid, Gwirfoddoli, Ymgysylltu a mwy I fundiadau cymunedol.
Rôl Bwrdd Ymddiriedolwyr CGLlSFf yw rhoi llywodraethiant sefydliadol a goruchwylio’r cyfeiriad strategol, yn unol â’i gyfansoddiad ac amcanion elusennol. Mae’r Ymddiriedolwyr yn darparu arweiniad proffesiynol i’r Prif Swyddog a’r tîm Rheoli sy’n gyfrifol am ddarpariaeth weithredol ein Gwasanaethau Craidd a’r Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol.
Caiff ein holl waith ei seilio ar egwyddorion CGLlSFf:
Mae CGLlSFf yn croesawu ceisiadau gan bobl gyda safbwynt strategol, sy’n flaengar a gyda ffocws ar ddatrysiad. Mae’r uchelgais ac ymroddiad i hybu’r sefydliad ymlaen, ynghyd â gallu i werthuso elfennau cymdeithasol a masnachol y busnes, yn ddymunol iawn. Mae CGLlSFf yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag eu tarddiad ethnig, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd/cred neu oedran. Rydym yn ymroddedig i gael Bwrdd hollol gynhwysol a chynrychioladol.
Bu Cyngor Gweithredu Lleol Sir y Fflint yn gweithredu ers 1997 ac mae’n cyflawni swyddogaeth hanfodol ar draws y sir wrth helpu i gefnogi gwaith cannoedd o fudiadau gwirfoddol a chymunedol wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau. Gan weithio yng Nghanolfan Corlan ym Mharc Busnes yr Wyddgrug, mae ein Prif Swyddog, Ann Woods, yn goruchwylio gwaith 14 o staff mewn tair adran ar wahân, ond rhynggysylltiedig:
Cyllid a Llywodraethiant – helpu mudiadau gwirfoddol i gynnal eu gweithgareddau yn broffesiynol a’u cynorthwyo i fanteisio ar gyllid sydd ei fawr angen gan amrywiaeth o raglenni cyllid.
Presgripsiynu Cymdeithasol – cydweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn helpu pobl fregus a’r rhai mewn angen i gael cefnogaeth gan y sector gwirfoddol.
Gwirfoddol – helpu’r cyhoedd i ddechrau arni ym myd gwerth chweil dros ben gwaith gwirfoddol ac i gefnogi arfer da mewn swyddi gwirfoddoli.
Rôl Bwrdd Ymddiriedolwyr CGLlSFf yw cefnogi a diogelu gwaith CGLlSFf, cefnogi a monitro ei waith a gweithdrefnau, gan sicrhau cywirdeb ariannol a gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ i gynghori ar gyfeiriad strategol y sefydliad. Daw ymddiriedolwyr o ystod o gefndiroedd, llawer gyda phrofiad yn y sector gwirfoddol, ond nid yw hyn yn orfodol. Rhan annatod o’n llwyddiant fel ymddiriedolwyr, yn ogystal â brwdfrydedd, yw ein bod yn dod ag ystod o safbwyntiau a sgiliau i’n gwaith.
Fel bwrdd llawn, rydym yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn (yn cynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) ond caiff yr holl ymddiriedolwyr eu hannog i fynychu digwyddiadau rhwydweithio CGLlSFf yn flynyddol er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o waith CGLlSFf. Yn ogystal â chyfarfodydd bwrdd llawn, gofynnwn fod yr holl ymddiriedolwyr yn ymuno ag un o’n is-bwyllgorau (yn dibynnu ar eich diddordeb a maes sgiliau) sydd hefyd yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn.
Y rhain yw:
- Yr Is-bwyllgor Personél
- Yr Is-bwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol.
Fel rhywun a ddaeth yn ymddiriedolydd dair blynedd yn ôl, gallaf dystio pa mor werth chweil yw’r gwaith yma. Mae ein Prif Swyddog yn arwain tîm ymroddedig o swyddogion CGLlSFf ac mae eu gwaith yn cael effaith wirioneddolol a pharhaus ar lawer o gymunedau Sir y Fflint. Mewn blynyddoedd diweddar, gwelsom ergyd ddwbl epidemig Covid a’r argyfwng ‘costau byw’ ac fel canlyniad, ni fu gwaith y sector gwirfoddol erioed yn bwysicach wrth helpu pobl Sir y Fflint i ffynnu. Mae’r ymdeimlad o gydweithio a diben yn ein grŵp clos o ymddiriedolwyr yn hynod ond gwyddom fod eraill allan yno y gallai eu harbenigedd ac ymroddiad sicrhau ein bod hyd yn oed yn fwy effeithlon. Felly os yw’r pamffled yma wedi ennyn eich diddordeb, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Peter Agnew, Cadeirydd
Yn dilyn trafodaeth gyda Hymddiriedolwyr presennol, rydym wedi dynodi rhai o’r setiau sgiliau a nodweddion a deimlwn sy’n feysydd ppwysig o ran twf yn y dyfodol:
Cyllid a Chyfrifeg
Mae CGLlSFf yn gweithredu cyllideb o dros £500,000 ac yn rheoli portffolio o grantiau. Rydym yn edrych am ymgeiswyr gyda chefndir mewn cyllid a chyfrifeg a all gynnwys profiad mewn archwilio a rheoli risg.
Marchnata a Chyfathrebu
Mae codi proffil CGLlSFf yn faes allweddol o ddatblygu i ni, a byddai safbwynt strategol ar farchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn fanteisiol.
Rheoli Newid ac Arloesodd Gweithle
Mae arferion a diwylliant gwaith wedi newid yn sylweddol iawn mewn blynyddoedd diweddar a bydd hyblygrwydd ac addasu yn themâu allweddol i lawer o fusnesau wrth symud ymlaen. Gallai hyn ymwneud ag ystod o setiau sgiliau gan gynnwys sgiliau cyfreithiol, adnoddau dynol, iechyd a llesiant a chydraddoldeb ac amrywiaeth.
Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth a rydym yn gwerthfawrogi eich profiad bywyd a’ch safbwynt gymaint ag unrhyw brofiad a gwybodaeth broffesiynol a all fod gennych.
Mae’n bwysig nodi, nid oes angen profiad blaenorol fel Ymddiriedolydd felly peidiwch â gadael i hynny eich atal rhag gwneud cais. Rydym yn gwerthfawrogi eich nodweddion personol yn fwy na dim.
Byddwn yn darparu’r holl hyfforddiant a chefnogaeth rydych eu hangen.