A allech chi ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr?
Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint yn falch i gynrychioli’r Sector Gwirfoddol.
A allech chi ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr?
Ydych chi’n chwilio am gyfle i ddefnyddio’ch sgiliau i helpu’r sector gwirfoddol?
Bu Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn hyrwyddo, datblygu a chefnogi gweithgaredd gwirfoddol a chymunedol am dros 25 mlynedd. Rydym yn ei weld fel braint i gynrychioli a chefnogi’r gwaith sy’n newid bywydau y mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn ei wneud.
A allech chi gefnogi ein Bwrdd i helpu datblygu ein gwasanaethau? Rydym yn chwilio am bobl leol sydd â diddordeb yn y sector gwirfoddol i helpu arwain sut mae ein sefydliad yn gweithredu. Nid oes angen profiad ymddiriedolwr blaenorol – dewch fel eich hun!
Am sgwrs anffurfiol, rhowch alwad i’n Prif Swyddog Ann ar 07867 451827 neu e-bostiwch [email protected]
Photo Descriptions:
CGLlSFf yn croesawu Ymddiriedolwr newydd Natasha Wait / FLVC welcomes new Trustee Natasha Wait
Tîm CGLlSFf yn croesawu Prif Weithredwr CGGC / The FLVC team welcome the Chief Executive of WCVA